Hwn oedd ein hail ymweliad a Chlydau. Bu’r tro cyntaf yn brofiad mor bleserus – yr awyrgylch a’r adnoddau mor syrfdanol – roedd yn ormod i ddisgwyl i’r ail dro fod cystal. Nid felly o gwbl! Gallwn ddweud yn ddiffuant i’r ail ymweliad ragori hyd yn oed ar y cyntaf. Un o’r rhesymau amlwg am hyn yw fod Clydau yn datblygu yn barhaus. Roedd decor ein bwthyn -Bramble – mor ffres, heb ddim ol traul arno, roedd yr ystafell chwarae, gyda’i hamrywiaeth eang o degannau a gweithgareddau, yn nefoedd ar y ddaear i’n wyr dwyflwydd oed.
Roedd yno naws gymdogol ar y safle ymysg y teuluoedd oedd wedi dod o bob cwr o Brydain, a theimlid hyn ar ei orau bob bore yn ystod y gweithgaredd bwydo’r anifeiliaid. Roedd gallu Ffermwr Malcolm I gofio enwau pob un o’r deuddeg plentyn yn dangos cynhesrwydd a brwdfrydedd tuhwnt.
Hawdd deall pam fod cymaint o’r rhai oedd yn aros yno yn dod yn ol bob blwyddyn, ac hynny o bellter. Mantais ein teulu ni yw ei fod yn ddigon agos i ni bicio yno am dridiau a mwynhau harddwch a thawelwch cilcyn arbennig o Gymru.
– Gwyn a Nesta Hughes